Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 2 Hydref 2023
Amser:
13.30 -
14.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13510
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AS.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)383 - Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)384 - Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.3 SL(6)385 - Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.4 SL(6)382 - Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.5 SL(6)386 - Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)379 - Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
3.2 SL(6)380 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
3.3 SL(6)381 - Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.
4.2 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan Weinidog yr Economi.
4.3 Gohebiaeth â’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau i weithredu Fframwaith Windsor
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
4.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
4.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi'u Fflworeiddio (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
4.6 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Hysbysiad Blaenorol) a Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Gohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg: Defnyddio’r Gymraeg
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg.
5.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Ddrafft 2024-25
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Fideogynadledda drwy Zoom
8 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25
Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 a chytunwyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.